Grŵp 0: Y Nwyon Nobl

Mae anfetelau anadweithiol Grŵp 0 yn cael eu hadnabod gan yr enw'r Nwyon Nobl. Mae'r elfennau hyn yn anadweithiol oherwydd bod ganddynt blisgyn allanol llawn. Mae hwn yn golygu nid ydynt am ennill na cholli electronau na rhannu electronau ychwaith.

elfennau grŵp 0

Elfennau Grŵp 0

Yr elfennau yw Heliwm (He), Neon (Ne), Argon (Ar), Crypton (Kr), Senon (Xe) a Radon (Rn)

Golwg Grŵp 0

Nwyon di-liw yw'r nwyon nobl, er gallwn eu cynhyrfu i allyrru golau:

golau o elfennau grŵp 0

Golau o Elfennau Grŵp 0

Defnydd y Nwyon Nobl

Elfen Defnydd
Heliwm
  • Llongau Aer
  • Balwns Parti
  • Tanciau Aer ar gyfer Plymio
  • Systemau Oeri
Neon
  • Goleuadau llachar (coch)
Argon
  • Goleuadau (hen fylbiau a fflworyddol)
  • Amgylchedd anadweithiol ar gyfer weldio
  • Amgylchedd diogel i gadw hen ddogfennau mewn amgueddfeydd
Crypton
  • Gyda argon mewn goleuadau fflworyddol
  • Mewn fflachlampau ar gyfer ffotograffaeth cyflym
Senon
  • Mewn lampau llachar
  • Mewn fflachlampau ar gyfer ffotograffaeth cyflym
  • Lampau ceir
Radon
  • Trin cancr
  • Rhagfynegi daeargrynfeydd

Dim ond y tri cyntaf (He, Ne, Ar) sydd angen gwybod ar gyfer yr arholiadau.

Llongau Aer - Heliwm neu Hydrogen?

Er bod llawer fawr o hydrogen ar gael ar y Ddaear, peryglus iawn oedd llenwi llongau aer gyda'r nwy ffrwydrol hwn, fel caiff ei arddangos gan y fideo enwog hwn o dynged yr Hindenburg. Mae'r ddau nwy yn ddefnyddiol iawn oherwydd eu bod yn ysgafnach nag aer (dwysedd is).

  • Trychineb yr Hindenburg

Trachineb yr Hindenburg mewn Lliw