Bondio Cofalent

Uchelgais pob atom yw i gael plisgyn allanol llawn. Gall hyn ddigwydd trwy ennill a cholli electronau (bondio ïonig), fel sy'n digwydd gyda chyfansoddion sy'n cynnwys metelau, neu drwy rannu electronau i ffurfio bond cofalent. Rydym eisoes wedi dod ar draws cyfansoddion cofalent yng Nghemeg 1. Mae bondio cofalent felly yn digwydd rhwng atomau anfetel. Gall yr atomau fod o'r un elfen (e.e. clorin, ocsigen, nitrogen) neu o wahanol elfennau (e.e. dŵr, methan, amonia).

Mae'n bwysig i nodi ar yr adeg hon, nid yw'r uchod yn hollol wir. Celwydd eto! Wel, os ydych yn mynd ymlaen i astudio Cemeg i UG, cewch weld bod rhai metelau'n gallu bondio'n gofalent a bod rhai cyfansoddion sydd ond yn cynnwys anfetelau, yn gallu bodoli fel cyfansoddion ïonig.

Fideo

  • Bondio Cofalent HSW

Bondio Cofalent HSW

Bondiau Sengl, Dwbl a Thriphlyg

Byddwch yn cofio bod angen dau electron yn cael eu rhannu er mwyn creu un bond cofalent. Bydd felly ddim yn syndod, bod angen 4 electron (2 pâr) i greu bond dwbl a 6 electron (3 pâr) i greu bond triphlyg. Nid yw'r bondiau dwbl a thriphlyg mor gyffredin a'r rhai sengl.

Adeileddau Cofalent

Mae cyfansoddion ac elfennau cofalent yn gallu cynhyrchu dau brif fath adeiledd:

  • cofalent syml
  • adeiledd cofalent enfawr

Rydych wedi dod ar draws moleciwlau syml yn barod, Cl2, H2O, NH3 ac yn y blaen, ond beth yn y byd ydy adeileddau enfawr?

Yn syml adeileddau enfawr, yw hynny yn gwmws - adeileddau enfawr! Gallwn edrych ar adeileddau rhai mathau o garbon fel enghraifft: graffit a diemwnt.